Newyddion

Ymunwch â Rhaglen AI ar gyfer Marchnata Small Business Britain

AI Chat bot

Cofrestrwch ar gyfer rhaglen 'Bot Up Your Business' Small Business Britain i ddatblygu eich sgiliau AI yn 2027.

Gyda chefnogaeth BT, nod y rhaglen yw helpu perchnogion busnesau bach i ddysgu sut y gall AI fod yn gynghreiriad marchnata iddynt.

Trwy hyfforddiant ar-lein wythnosol sydd wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â heriau busnes yn y byd go iawn, byddwch chi'n dysgu sut y gall AI wella creu cynnwys, cryfhau ysgrifennu copi, a gwella ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol.

Mae dyddiadau'r cyrsiau i gyd ar ddydd Mawrth rhwng 10am ac 11am:

  • Modiwl 1 – 12 Ionawr 2027
  • Modiwl 2 – 19 Ionawr 2027
  • Modiwl 3 – 26 Ionawr 2027
  • Modiwl 4 – 2 Chwefror 2027

I gofrestru ar gyfer eich lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Bot Up Your Business - Marketing Programme Registration.

Mae AI yn trawsnewid sut mae busnesau ledled Cymru yn arloesi, yn cystadlu ac yn tyfu. Er mwyn helpu busnesau i ddeall a mabwysiadu AI yn hyderus, mae Busnes Cymru yn datblygu rhaglen cymorth ymwybyddiaeth a mabwysiadu AI ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Deallusrwydd Artiffisial | Busnes Cymru. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.