Newyddion

Y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch: Yr Hyn sydd Angen i Fusnesau ei Wybod

Digital padlock

Nod Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch arfaethedig Llywodraeth y DU yw cryfhau gofynion seiberddiogelwch sy'n helpu i amddiffyn gwasanaethau hanfodol a seilwaith digidol hollbwysig y wlad.

Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig, sy'n adeiladu ar Reoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth (NIS) presennol 2018 ac yn eu diwygio, wedi'i chynllunio i wella gwydnwch rhag bygythiadau seiber. Mae'r diwygiadau yn ymateb i'r dirwedd sy’n newid o ran bygythiadau ac yn anelu at leihau'r tarfu ar wasanaethau y mae pobl a busnesau'n dibynnu arnynt bob dydd, gan gynnwys gofal iechyd, ynni, dŵr, trafnidiaeth a seilwaith digidol.

Pwy allai gael ei effeithio?

Disgwylir i'r Bil gyflwyno cwmpas ehangach o reoleiddio, gan gynnwys:

  • Canolfannau data: Disgwylir i rai canolfannau data gael eu rheoleiddio oherwydd bod gwasanaethau digidol llawer o sefydliadau yn dibynnu'n drwm arnynt.
  • Darparwyr Gwasanaethau a Reolir (MSP): Disgwylir i Ddarparwyr Gwasanaethau a Reolir canolig a mawr gael eu rheoleiddio oherwydd y gall ymosodiad seiber ar un darparwr amharu ar lawer o sefydliadau ar unwaith.
  • Cyflenwyr hollbwysig: Gall cyflenwyr sy'n darparu cynnyrch neu wasanaethau hanfodol i sectorau hollbwysig, ac y gallai unrhyw darfu arnynt effeithio ar wasanaethau pwysig, gael eu rheoleiddio.

Goblygiadau ehangach i fusnesau

Gall hyd yn oed sefydliadau nad ydynt wedi'u cynnwys yn uniongyrchol gan y ddeddfwriaeth deimlo ei heffaith. Gallai cwsmeriaid, yswirwyr, rheoleiddwyr a fframweithiau caffael ddisgwyl fwyfwy i sefydliadau ddangos arferion seiberddiogelwch a gwydnwch da.

Nawr yw'r amser i adolygu eich trefniadau seiberddiogelwch a nodi cyfleoedd i gryfhau eich gallu i atal ac ymateb i ddigwyddiadau seiber ac adfer ar ôl iddynt ddigwydd.

Pryd fydd y newidiadau yn dod i rym?

Cyflwynwyd y Bil i'r Senedd ym mis Tachwedd 2025 ac mae'n mynd trwy'r broses ddeddfwriaethol ar hyn o bryd. Bydd yr amserlen gweithredu yn dibynnu pryd y bydd y ddeddfwriaeth yn cael Cydsyniad Brenhinol a phryd y cyflwynir rheoliadau ategol.

Paratoi ar gyfer y dyfodol

Dylai busnesau sicrhau eu bod yn gwybod am ddatblygiadau ac ystyried sut y gallai gofynion newydd effeithio ar eu gweithrediadau, eu cadwyni cyflenwi a'u gwasanaethau digidol.

Disgwylir i ganllawiau a diweddariadau yn y dyfodol gynnig rhagor o wybodaeth am sut beth yw seiberwydnwch da yn ymarferol a sut y gall sefydliadau baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau sydd i ddod.

Nid yw'r Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch yn gyfraith eto. Bwriad y ddogfen hon yw rhoi cymorth i sefydliadau ddeall seiberwydnwch. Fe'i darperir i fod yn ganllaw cyffredinol yn unig ac nid yw'n disodli cyngor cyfreithiol, rheoleiddiol na phroffesiynol sydd wedi'i deilwra i amgylchiadau eich sefydliad.

Dysgwch fwy am y cymorth seiberddiogelwch sydd ar gael: Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.