Newyddion

Wythnos Deallusrwydd Artiffisial 2026

AI

Mae Wythnos Deallusrwydd Artiffisial yn uwchgynhadledd ar-lein 10 diwrnod lle mae miloedd o arweinwyr yn dod ynghyd i drafod sut i wneud i ddeallusrwydd artiffisial i weithio.

Y llynedd, denodd yr uwchgynhadledd, rhad ac am ddim, 93,000 o arweinwyr o bob cwr o'r llywodraeth, gofal iechyd, mentrau, busnesau bach a chanolig, elusennau, a gwasanaethau golau glas. Dros 10 diwrnod, cyflwynodd 250+ o siaradwyr 200+ o sgyrsiau yn archwilio cannoedd o ddulliau o weithredu deallusrwydd artiffisial yn y byd go iawn.

Eleni mae'r wythnos yn cael ei chynnal rhwng 12 Hydref a 23 Hydref.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: AI Week 2026.

Mae deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid sut mae busnesau ledled Cymru yn arloesi, yn cystadlu ac yn tyfu. Cymerwch olwg ar dudalennau Deallusrwydd Artiffisial Busnes Cymru am gyngor a chefnogaeth. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.