Mewn pecyn cymorth newydd gan UNESCO a gyhoeddwyd heddiw, cyfeirir at brofiad Cymru o ddod â'r Gymraeg i mewn i'r byd digidol fel esiampl ryngwladol amlwg.
Mae'r Pecyn Cymorth Ymarferol ar Gyfer Cefnogi Gwasanaethau Digidol Amlieithog yn tynnu ar arbenigedd Cymru o ran ymgorffori'r Gymraeg mewn gwefannau, apiau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n addasu Pecyn Cymorth Technoleg Ddwyieithog Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer cynulleidfa ryngwladol, gan roi arweiniad ymarferol i genhedloedd eraill ar wneud yr un peth, yn enwedig y rhai sydd â llai o adnoddau ac sydd â ieithoedd brodorol.
Mae'r pecyn cymorth yn rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol Rhyngwladol UNESCO. Mae'r cyhoeddiad yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu, ac enw da cynyddol Cymru fel arweinydd byd ym maes technoleg iaith. Wrth i wledydd a chymunedau chwilio am ffyrdd o gryfhau'r defnydd o'u hieithoedd yn yr oes ddigidol, mae Cymru yn helpu i lywio'r sgwrs ryngwladol ac yn darparu model ymarferol y gall eraill ei ddilyn.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: UNESCO yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth fyd-eang gan Gymru wrth gefnogi ieithoedd yn yr oes ddigidol | LLYW.CYMRU.
Cymraeg yn eich busnes - Mae llawer o resymau da i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a beth bynnag yw maint eich menter, mae mwy o gymorth ar gael nag erioed o'r blaen i'ch helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru.