Cofrestrwch ar gyfer Sioe Fusnes Llundain, digwyddiad busnes mwyaf y byd ar gyfer busnesau bach a chanolig a busnesau newydd.
Y nod yw grymuso perchnogion busnes, sylfaenwyr, entrepreneuriaid a busnesau newydd gyda'r wybodaeth, y cysylltiadau a'r atebion sydd eu hangen arnynt i dyfu a datblygu'n llwyddiannus.
Darganfyddwch gannoedd o arddangoswyr sy'n tynnu sylw at y cynhyrchion a'r gwasanaethau diweddaraf mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, technoleg, AD, yswiriant, gweithrediadau, cyllid, marchnata, a mwy. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth werthfawr o raglen y gynhadledd, sy'n cynnwys arbenigwyr o’r diwydiant yn trafod y tueddiadau, y strategaethau a’r heriau allweddol sy'n llunio dyfodol busnes.
Cynhelir y Sioe ar 11 a 12 Tachwedd yn Excel, Llundain ac mae tocynnau am ddim: The Business Show London | UK's Leading SME Event.
Os ydych chi'n ystyried dechrau busnes neu os oes gennych chi fusnes yn barod, mae Busnes Cymru yma i'ch helpu chi. O’ch helpu gyda'ch camau cyntaf i hunangyflogaeth gydag ystod ymarferol o ganllawiau a chymorth busnes neu gymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ehangu, tyfu a chryfhau eich busnes.