Newyddion

Rhaglen Small and Mighty Enterprise yn dychwelyd ym mis Medi!

small business owner looking at a digital device

Mae Small Business Britain wedi cyhoeddi bod y rhaglen Small and Mighty i helpu i dyfu busnesau bach gydag arweiniad a mentora arbenigol yn dechrau ar 18 Medi 2026.

Mae'r rhaglen chwe wythnos hon sy’n anelu at roi hwb mawr i unig fasnachwyr a microfusnesau, yn dod i ben gyda chynllun twf i gefnogi'r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Bydd yn cael ei chyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le yn y DU gyda chyfleoedd dysgu hyblyg i bawb.

Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys?

  • Sesiynau wythnosol byw wedi'u recordio ac ar gael ar wefan breifat Small Business Britain sydd ar gael i gyfranogwyr y cwrs yn unig.
  • Taflenni gwaith wythnosol i wreiddio canlyniadau dysgu sydd ar gael ar y wefan breifat, yn cael eu datblygu gan hyfforddwyr arbenigol bob wythnos.
  • Un awr o fentora 1 i 1 a mentora grŵp dros y chwe wythnos gan fentoriaid arbenigol ledled y DU.
  • Bod yn rhan o gymuned unigryw, gefnogol i ofyn ac ateb cwestiynau, cael mynediad at arbenigwyr ac athrawon, rhannu profiadau a rhwydweithio gyda busnesau bach eraill.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru: Small & Mighty.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ehangu, tyfu a chryfhau eich busnes. Rhagor o wybodaeth: Oes gennych chi fusnes yn barod? | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.