Newyddion

Rhaglen Hanfodion Sylfaenwyr Benywaidd

Mature Business owner looking at a digital device

Mae rhaglen Hanfodion Sylfaenwyr Benywaidd (Female Founders Fundamentals) wedi’i chynllunio i rymuso merched ledled y DU i ddechrau a thyfu busnesau llewyrchus.

Ymunwch â Small Business Britain a Starling ar gyfer cyfres ar-lein, chwe wythnos o hyd sydd wedi’i chynllunio i:

  • Ddatblygu eich brand a thyfu ar-lein
  • Eich helpu i wybod mwy am eich cyllid a deall Troi Treth yn Ddigidol
  • Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer cynhyrchiant i arbed amser a lleihau straen
  • Rhoi hwb i rwydwaith sy’n eich cefnogi a’ch hyrwyddo
  • Tyfu eich busnes ac archwilio marchnadoedd newydd
  • Meithrin hyder a goresgyn hunanamheuaeth

Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan sylfaenwyr benywaidd ysbrydoledig, yn cysylltu â merched eraill sy’n datblygu busnesau fel chi, ac yn cael mewnwelediadau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith yn syth.

Mae’r cwrs yn dechrau ar 13 Hydref 2026 gyda sesiynau wythnosol ar ddyddiau Mawrth tan 17 Tachwedd 2026 (Sylwch y bydd wythnos 3 yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener, nid dydd Mawrth).

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth ac i gofrestru: Female Founder Fundamentals 2026.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ehangu, tyfu a chryfhau eich busnes. P'un ai yw'ch busnes yn tyfu'n raddol neu'n ehangu'n gyflym, byddwn yn gweithio gyda chi i ganfod cyfleoedd, goresgyn heriau, a datgloi eich potensial llawn – bob cam o'r ffordd. Oes gennych chi fusnes yn barod? | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.