Newyddion

Rhaglen Gweminarau Rhad ac Am Ddim Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn dychwelyd!

Business owner setting up phone to record promotional content.

Mae'r Daith 2025 yn dechrau fis nesaf!

Ochr yn ochr â'r Daith Sadwrn y Busnesau Bach flynyddol i ddathlu'r holl fusnesau bach epig, bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach hefyd yn darparu rhaglen helaeth o weithdai dyddiol rhithwir am 11am rhwng 3 Tachwedd a 3 Rhagfyr.

Gan ymdrin â phynciau hanfodol fel marchnata ar gyllideb, rheoli amser, cyllid, ac offer digidol newydd fel deallusrwydd artiffisial, byddwch yn cael awgrymiadau a mewnwelediadau ymarferol gan arbenigwyr yn y diwydiant.

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gweminarau, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference!

Chwiliwch Ddigwyddiadur Busnes Cymru am hyfforddiant, gweithdai, rhwydweithio, seminarau a mwy sy'n gysylltiedig â busnes.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.