
Rydym wedi dechrau cyfri’r diwrnodau’n swyddogol ar gyfer Dydd Sadwrn y Busnesau Bach gan fod taith eiconig Dydd Sadwrn y Busnesau Bach y DU yn ôl eto ym mis Tachwedd!
Bydd 'Y Daith' yn ymweld â 23 o wahanol drefi a dinasoedd ledled y DU drwy gydol mis Tachwedd, gan ymweld â busnesau bach a thynnu sylw at eu cyfraniad i economi'r DU a chymunedau lleol.
Bydd rhaglen ddyddiol am ddim o ddigwyddiadau ar-lein, gan gynnwys gweithdai, gweminarau, mentora a straeon entrepreneuraidd ysbrydoledig, ar agor i fusnesau bach.
Dyma’r lleoliadau a'r dyddiadau ar gyfer Cymru:
- Wrecsam, 17 Tachwedd 2025
- Casnewydd, 19 Tachwedd 2025
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Small Business Saturday UK | Another year making a Big Difference!