Newyddion

Rhaglen Grantiau Asedau Strategol AI Sofran

AI robot

Cronfa AI Sofran yw cronfa fentro newydd Llywodraeth y DU sy'n bodoli’n unswydd i gefnogi sylfaenwyr AI Prydain, ac mae'n cynnig grantiau rhwng £1 miliwn a £9 miliwn i ariannu creu asedau AI strategol.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio i ddechrau ar ddau ddosbarth asedau:

  • setiau data AI gwerth uchel
  • a seilwaith labordy ymreolaethol neu awtomataidd

Mae'r grantiau ar agor i gwmnïau AI newydd, sefydliadau ymchwil, prifysgolion a mathau eraill o sefydliadau a allai fod yn y sefyllfa orau i greu'r ased. Mae croeso i gonsortia. Mae'r cynllun yn rhan o gynnig ehangach Cronfeydd AI Sofran i gefnogi cwmnïau AI yn y DU.

Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau llawn yw 5 Mehefin 2026 am 2pm.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Sovereign AI Strategic Assets Grants Programme - GOV-UK Find a grant.

Mae AI yn trawsnewid sut mae busnesau ledled Cymru yn arloesi, yn cystadlu ac yn tyfu. Er mwyn helpu busnesau i ddeall a mabwysiadu AI yn hyderus, mae Busnes Cymru yn datblygu rhaglen ymwybyddiaeth a chymorth mabwysiadu AI ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaChau). Nod y rhaglen yw helpu busnesau bach a chanolig, entrepreneuriaid a microfusnesau o Gymru i integreiddio AI i'w harferion busnes yn foesegol ac yn effeithiol, gan wella cynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd. Ewch i'n tudalen AI am ragor o wybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.