Newyddion

Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes Medi 2025

AGP image

Oes gennych chi syniad busnes gwych?

Mae ein Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn rhaglen 10 wythnos unigryw sydd wedi'i llunio i helpu entrepreneuriaid Cymru i lansio busnesau twf uchel, o sicrhau eu cwsmer cyntaf i ddenu buddsoddiad. Mae ein rhaglen yn cynnig cymorth wedi'i deilwra gan hyfforddwyr profiadol i helpu busnesau twf uchel i lwyddo.

Mae’r Rhaglen Cyflymu Busnes yn rhan o’r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) - gwasanaeth cymorth busnes twf uchel mwyaf blaenllaw Cymru ac rydym yn chwilio am geisiadau gan entrepreneuriaid yng Nghymru sydd â syniadau busnes cryf sy’n anelu at gyflawni trosiant o £1 miliwn erbyn 2029, creu 10 neu fwy o swyddi amser llawn ac allforio’n rhyngwladol.

Er mwyn osgoi siom, gwnewch gais yn gynnar gan y gallai galw uchel arwain at gau ceisiadau'n gynharach. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 25 Awst 2025.

Mae Busnes Cymru’n wasanaeth dwyieithog, ac mae ein holl ddigwyddiadau a gweithdai ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes Medi 2025

Bydd Cyflymydd Busnesau Newydd Busnes Cymru yn rhedeg o ddydd Mawrth 30 Medi 2025 tan ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025. Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.