Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn annog sefydliadau'r DU i gymryd camau ar unwaith i liniaru mater diogelwch sy'n effeithio ar PHP (CVE-2026-109618 a CVE-2026-109619).
Mae PHP wedi cyhoeddi diweddariad diogelwch i fynd i'r afael â mater diogelwch critigol a allai ganiatáu i ymosodwyr weithredu gorchmynion ar unrhyw weinydd gwe sy'n rhedeg PHP.
Mae PHP (PHP Hypertext Preprocessor) yn iaith sgriptio ar ochr y gweinydd a ddefnyddir yn helaeth ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer datblygu gwefannau. Mae’n rhedeg ar weinydd gwe i gynhyrchu cynnwys deinamig ar gyfer tudalennau, rhyngweithio â chronfeydd data, a rheoli rhesymeg y rhaglen ar ochr y gweinydd cyn cyflwyno’r allbwn HTML terfynol i borwr y defnyddiwr. Defnyddir PHP hefyd mewn amrywiaeth o gynhyrchion eraill.
Gallai'r mater diogelwch ganiatáu i ymosodwr achosi cyflwr ‘dim cof ar ôl’ (out-of-memory - OOM) yn PHP sy'n arwain at lygredd cof. O dan amodau penodol, gellid manteisio ar y llygredd hwn i weithredu cod pell heb ei ddilysu. Mae'r mater diogelwch hwn bellach wedi'i drwsio.
Mae'r cyngor diogelwch PHP llawn yn rhoi mwy o fanylion am y mater diogelwch sydd wedi’i drwsio.
Bydd yr NCSC yn parhau i fonitro am unrhyw effaith ar sefydliadau'r DU.
Darllenwch yr eitem newyddion lawn gan NCSC: Critical security issue affecting PHP | National Cyber Security Centre.
Adnoddau pellach yr NCSC:
- Post blog NCSC: Preparing for a ‘vulnerability patch wave’
- Dilynwch ganllawiau’r NCSC gan gynnwys vulnerability management a preventing lateral movement
- Egwyddorion yr NCSC secure build and deployment pipelines
- Os yw'ch sefydliad yn y DU, gallwch gofrestru ar gyfer NCSC Early Warning service i dderbyn hysbysiadau am fygythiadau posibl ar eich rhwydwaith
- Mae NCSC Vulnerability Disclosure Toolkit yn helpu sefydliadau o bob maint gyda'r elfennau hanfodol o weithredu proses datgelu bregusrwydd
Gall ymosodiadau seiber amharu ar weithrediadau, peryglu data sensitif, a niweidio enw da. Darllenwch dudalen Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch Busnes Cymru i ddarganfod sut i amddiffyn eich busnes rhag ymosodiad seiber.