Newyddion

Llywodraeth y DU yn ariannu cymorth iechyd meddwl i helpu gweithwyr dur

Mental health support group

Bydd cronfa gwerth dros £3 miliwn yn cael ei chreu gan Lywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chyngor Castell Nedd Port Talbot i gefnogi iechyd meddwl a lles gweithwyr Tata Steel a’u teuluoedd ym Mhort Talbot a’r gymuned ehangach.

Mae’r cyllid, sy’n hyblyg, ac a fydd efallai yn cynyddu yn ddibynnol ar y galw, wedi’i gynllunio i gwmpasu gwasanaethau gan gynnwys:

  • cyflogi mwy o gwnsleriaid i weithio’n uniongyrchol â gweithwyr sydd wedi’u heffeithio arnynt gan y newid, a darparu adnoddau ychwanegol a grantiau i gefnogi’r ddarpariaeth iechyd meddwl sydd eisoes mewn lle
  • ymestyn argaeledd cymorth cymunedol a chymorth gan gyfoedion, er enghraifft trwy Men’s Sheds, She Sheds a grwpiau cymunedol eraill;
  • ariannu cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion lle bo plant wedi’u heffeithio arnynt gan broses bontio Tata Steel;
  • darparu cyngor arbenigol i weithwyr Tata Steel a’u teuluoedd sy’n llywio’r system lles neu sy’n ceisio ymdopi â dyled
  • darparu hyfforddiant i weithwyr cymorth y cyngor ac undebau llafur ar godi ymwybyddiaeth o, ac atal hunanladdiad

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Llywodraeth y DU yn ariannu cymorth iechyd meddwl i helpu gweithwyr dur - GOV.UK

I gael gwybodaeth am gyngor a chymorth Iechyd Meddwl a Lles sydd eisioes ar gael, dewisiwch y ddolen ganlynol: Cymorth a lles arall - Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Mae Busnes Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu cymorth busnes i unigolion, busnesau presennol a chwmnïau cadwyn gyflenwi y mae proses bontio Tata Steel wedi effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys pecyn o gyngor ac arweiniad busnes i'ch helpu i baratoi eich achos busnes am gymorth ariannol drwy Gronfeydd Pontio Tata Steel a ariennir gan Lywodraeth y DU: Cymorth Busnes Cymru ar gyfer proses bontio Tata Steel | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.