Bydd bron i filiwn o bobl ifanc ledled y DU yn elwa o gyfleoedd dysgu neu gyflogaeth o ganlyniad i becyn ariannu gwerth £820 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyhoeddi.
Bydd 350,000 o gyfleoedd hyfforddi newydd neu gyfleoedd newydd yn y gweithle mewn sectorau gan gynnwys adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol a lletygarwch yn cael eu cynnig i bobl ifanc ar Gredyd Cynhwysol i'w helpu i ddatblygu sgiliau yn y gwaith, rhwydweithiau cyflogwyr, a hyfforddiant CV a chyfweliadau.
Byddant yn cael eu cyfeirio at un o hyd at chwe llwybr gan eu hyfforddwr gwaith: gwaith, profiad gwaith, prentisiaeth, hyfforddiant ehangach, dysgu neu raglen hyfforddi yn y gweithle gyda chyfweliad wedi’i warantu, wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â chyflogwyr.
Mae 55,000 o bobl ifanc hefyd yn elwa o swydd wedi’i warantu a gefnogir gan Lywodraeth y DU, a fydd yn dechrau cael ei gyflwyno o wanwyn 2026 mewn ardaloedd sydd â'r angen mwyaf ym Mhrydain Fawr.
Y rhanbarthau hyn yw:
- De-orllewin a De-ddwyrain Cymru
- Birmingham a Solihull
- Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Manceinion Fwyaf
- Swydd Hertford ac Essex
- Canolbarth a Dwyrain yr Alban
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Almost a million young people to benefit from expanded support, new training, and work experience opportunities - GOV.UK.
Gall Twf Swyddi Cymru+ roi safbwyntiau newydd a chyflenwad talent i chi i helpu i baratoi eich busnes ar gyfer y dyfodol.
Gall pobl ifanc fod yn gaffaeliad gwych a thrwy gymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru+, byddwch yn sicrhau bod eich busnes yn cael y dewis o'r dalent ifanc yn eich cymuned.
Mae'n rhaglen arloesol a hyblyg. Felly gallwch benderfynu ar y ffordd orau y gall y rhaglen helpu eich busnes, ac ar yr un pryd creu cyfleoedd fydd yn newid bywyd y person ifanc rydych chi'n ei gefnogi.