Bydd cannoedd yn fwy o deuluoedd yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ofal plant wedi'i ariannu diolch i fuddsoddiad o £55 miliwn a gyhoeddwyd heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau buddsoddiad o £55 miliwn mewn gofal plant, gan gynnwys y broses o gyflwyno gofal plant a ariennir i fwy o blant dwy oed ledled Cymru a £10 miliwn o gyllid cyfalaf, fel rhan o'r Gyllideb Atodol Gyntaf 2026-27.
Bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu'r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos i bob plentyn dwy oed, a ddarperir trwy awdurdodau lleol.
Bydd £10 miliwn o gyllid cyfalaf yn helpu i wella ac ehangu lleoliadau gofal plant, gan wella ansawdd, capasiti a hygyrchedd y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.
Bydd y cyllid yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r system gofal plant trwy helpu i reoli galw cynyddol, cryfhau cynaliadwyedd hirdymor darparwyr, a chefnogi gofal plant cyfrwng Cymraeg - gan gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r cyllid yn gam sylweddol tuag at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20 awr o ofal a ariennir yr wythnos i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed. Ar ôl ei gyflwyno'n llawn, y cynnig gofal plant newydd fydd y cynnig mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Llywodraeth Cymru yn cyflymu'r gwaith o ehangu gofal plant a ariennir gyda chyllid newydd | LLYW.CYMRU.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy Cymraeg 2050. Gall busnesau chwarae eu rhan i gyrraedd y targed hwn a hefyd elwa o ddefnyddio'r iaith.
Mae llawer o resymau da i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a beth bynnag yw maint eich menter, mae mwy o gymorth ar gael nag erioed o'r blaen i'ch helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru.