Newyddion

Lansio gwefan newydd i helpu pobl i ddod o hyd i eiriau Cymraeg

Get Welsh Words / Beth yw'r gair Cymraeg am...?

Mae gwefan am ddim, Beth yw'r gair Cymraeg am...? yn ateb y cwestiwn cyffredin hwnnw.

Boed yn yr ystafell ddosbarth, ar y cyfryngau cymdeithasol neu yn y gweithle, mae Beth yw'r gair Cymraeg am...? yma i helpu pobl i ddarganfod lle i ddod o hyd i eiriau ac ymadroddion Cymraeg.

Y wefan yw'r lle i ddechrau os ydych chi'n chwilio am eiriaduron a chronfeydd data terminoleg Cymraeg. Mae ar gael nawr, a gellir mynd at y wefan drwy gyfrifiaduron, cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar.

Mae'r lansiad swyddogol yn digwydd ar Ddiwrnod Ieithoedd Ewrop 2025, sy'n dathlu'r amrywiaeth ieithyddol gyfoethog ledled Ewrop ac yn annog pobl i ddysgu ieithoedd newydd.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Lansio gwefan newydd i helpu pobl i ddod o hyd i eiriau Cymraeg | LLYW.CYMRU.

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.