Mae Hanfodion Diogelu Data yn rhaglen hyfforddi a hunanasesu ar-lein rhad ac am ddim a grëwyd yn arbennig ar gyfer sefydliadau bach a chanolig, eu gweithwyr, ac unig fasnachwyr.
Fe’i cynlluniwyd gan arbenigwyr Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ac mae'n rhoi’r wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i gymhwyso'r hanfodion yn hyderus yn eich gwaith bob dydd, yn ogystal â chanllawiau clir i ddileu unrhyw ansicrwydd ynghylch diogelu data.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio ar gyfer sefydliadau:
- sydd â llai na 250 o weithwyr;
- nad oes ganddynt Swyddog Diogelu Data; ac
- nad ydynt yn ymgymryd â phrosesu data risg uchel.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Data Protection Essentials | ICO.
I ddarganfod pam mae Seiberddiogelwch yn bwysig i'ch busnes, edrychwch ar ein tudalen Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch.