Os ydych chi'n fusnes bach, efallai bod ymosodiadau seiber yn teimlo fel rhywbeth y dylai cwmnïau mawr boeni amdano’n unig.
Cwmnïau â chyllidebau mwy, mwy o gwsmeriaid – a mwy i’w golli. A gan eich bod chi'n canolbwyntio ar gadw cwsmeriaid yn hapus a rheoli llif arian a’ch busnes o ddydd i ddydd, gall buddsoddi mewn seiberddiogelwch ymddangos fel mwy o gost ychwanegol yn hytrach na blaenoriaeth.
Nid arbenigwyr technegol yn unig yw Cynghorwyr Seiber; maen nhw'n deall sut i roi’r cyngor gan yr arbenigwyr yn y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ar waith mewn ffordd sy'n ymarferol, yn realistig ac yn berthnasol i fusnesau llai.
Mae Cynghorwyr Seiber bellach yn cynnig ymgynghoriad 30 munud rhad ac am ddim i fusnesau bach neu ganolig (BBaChau) sy'n awyddus i ddechrau gyda Hanfodion Seiber, safon sylfaenol Llywodraeth y DU ar gyfer seiberddiogelwch. Does dim rhwymedigaeth a gall y cyngor rhagarweiniol hwn wneud gwahaniaeth mawr, a rhoi'r cyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud maes a all weithiau ymddangos yn gymhleth yn haws ei ddeall.
Os penderfynwch ddefnyddio Cynghorydd Seiber, byddwch yn elwa o ddealltwriaeth arbenigol sy'n esbonio sut y gellir cyflawni’r 5 cam sy'n ffurfio Hanfodion Seiber yn eich sefydliad chi gan ddefnyddio camau ymarferol, cyraeddadwy. Boed yn ddeall mesurau diogelwch, darganfod atebion cyflym neu osgoi camgymeriadau cyffredin, bydd yr ymgynghoriad yn helpu eich sefydliad i symud ymlaen yn hyderus.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Helping small businesses with free, hands-on cyber consultancy | National Cyber Security Centre.
I gael gwybodaeth a chyngor ar Seiberddiogelwch ar gyfer eich busnes, edrychwch ar y canllaw Pam fod Seiberddiogelwch yn Bwysig.