Newyddion

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026

Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Ceisiadau ar gyfer 2026 yn awr ar agor. Enwebwch diwtor neu fentor sy’n ysbrydoli yng Nghymru.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn cydnabod gwaith gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ar draws Cymru.

Mae’r gwobrau yn dathlu ymdrech ac ymroddiad rhagorol tiwtoriaid a mentoriaid i helpu oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu huchelgais, oherwydd fod mentoriaid a thiwtoriaid sy’n ysbrydoli tu ôl i ddysgwyr llwyddiannus.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn bartneriaeth yn cynnwys y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Llywodraeth Cymru, Prifysgolion Cymru, NTFW, Colegau Cymru a Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru.

Dylai enwebiadau arddangos llwyddiant yn o leiaf ddau o’r meysydd dilynol:

  • Datblygu’r cwricwlwm, creu adnoddau a deunyddiau newydd.
  • Goresgyn amgylchiadau personol a/neu weithio mewn amgylchiadau heriol.
  • Cyfrannu at ehangu mynediad ac adeiladu llwybrau i gyfleoedd dysgu.
  • Ysbrydoli dysgwyr i symud ymlaen i gyrsiau neu gyfleoedd eraill i ddysgu neu bontio i gyflogaeth.
  • Creu partneriaethau neu lwybrau newydd i ddysgu.
  • Datblygu ffyrdd blaengar o gefnogi, addysgu, chwalu rhwystrau neu fentora dysgwyr.

Categorïau gwobrau:

  • Addysg Uwch
  • Addysg Bellach
  • Lleoliad Gweithle
  • Addysg Gymunedol
  • Cymraeg i Oedolion
  • Ysgol neu leoliad arall

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 16 Ionawr 2026.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Ysbrydoli! Gwobrau Tiwtoriaid - Learning and Work Institute.

Uwchsgilio eich gweithwyr gyda chymorth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg: Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu busnesau ledled Cymru i feithrin gweithlu cryfach a mwy medrus. Gall cyflogwyr wneud cais am gyllid i dalu hyd at 50% o'r costau hyfforddi achrededig, a gall bob cais ofyn am hyd at £50,000. P'un a ydych chi'n bwriadu llenwi bylchau sgiliau, cadw staff, neu ddenu talent newydd, gall y Rhaglen Sgiliau Hyblyg eich helpu i fuddsoddi yn nyfodol eich tîm.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.