Newyddion

Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd 2026

Clustia' Mul cafe

Mae Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd ‘nôl i 2026 – y dathlu busnesau a mentrau mwyaf Cymraeg ARFOR (Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr).

Felly os ydych chi’n gwybod am fusnes neu fenter yn ARFOR sy’n llwyddo yn y Gymraeg ac yn cyfrannu at ddyfodol yr iaith yn ARFOR, enwebwch nhw. Mae gennych tan 30 Ionawr 2026 i enwebu, dyma drosolwg o’r categorïau:

  • Cyfryngau Cymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd – ar gyfer y rheiny sydd ar flaen y gad gyda’u defnydd o’r Gymraeg ar-lein.
  • Ieuenctid Mwyaf Cymraeg y Byd – ar gyfer pobl ifanc sydd wedi derbyn cymorth gan raglen ARFOR i wireddu prosiect neu fusnes trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gofod Mwyaf Cymraeg y Byd – boed yn gaffi, siop, theatr, parlwr trin gwallt neu gofod arall yn llwyr!
  • Cynnyrch Mwyaf Cymraeg y Byd – o fwyd a diod i ddillad, llyfrau neu anrhegion, mae’r posibiliadau’n ddi-ddiwedd.
  • Busnes Mwyaf Cymraeg y Byd – gwobr ar gyfer busnesau ble mae’r Gymraeg wir yn rhan gynhenid o’u hunaniaeth.
  • Menter Gymdeithasol Mwyaf Cymraeg y Byd – are gyfer menter sydd nid yn unig yn defnyddio’r iaith, ond sy’n ei dathlu.
  • Tacsis Mwyaf Cymraeg y Byd — oherwydd fod tacsis yn hanfodol i economi ARFOR, gan gysylltu busnesau a chymunedau mewn ardaloedd wledig. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth: Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd — Bwrlwm ARFOR.

Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi.

Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae’r dudalen yma’n Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.

© Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.