Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2026 ar agor! Eleni, y categorïau yw:
- Gwobr Un i’w Wylio
- Gwobr Arloesedd gan Fenter Gymdeithasol
- Profwch Hi: Gwobr Effaith Gymdeithasol
- Gwobr Menter Gymdeithasol Amgylcheddol
- Gwobr Menter Gymdeithasol sy’n Meithrin Amrywiaeth, Cynhwysiant, Tegwch a Chyfiawnder
- Gwobr Hyrwyddwr Menywod mewn Mentrau Cymdeithasol
- Gwobr Menter Gymdeithasol yn y Gymuned
- Menter Gymdeithasol y Flwyddyn
Gall ennill, neu gyrraedd y rhestr fer, roi hwb i forâl y tîm, rhoi’r gydnabyddiaeth haeddiannol i’ch staff a’ch gwirfoddolwyr, a chodi’ch proffil gyda chleientiaid, cyllidwyr, a’r sector ehangach.
Mae ceisiadau eleni’n cau ar 20 Gorffennaf 2026.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2026 - Cwmpas.
Eisiau cychwyn busnes sy’n gwneud gwahaniaeth? Gallwn ni eich helpu chi. Rydym ni’n eich helpu i sefydlu a chynnal menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned: Busnes Cymdeithasol Cymru.