Newyddion

Gweminarau Canolfan LILAC ar gyfer Sylfaenwyr Anabl a Niwroamrywiol

Business meeting - 3 people one of which is a wheelchair user

Dan arweiniad Small Business Britain, a'i chefnogi mewn partneriaeth â Lloyds ac ARU Peterborough, mae'r Ganolfan LILAC yn dod â phrofiad byw, arloesedd a chefnogaeth ymarferol at ei gilydd i fagu hyder, creu cyfleoedd gwirioneddol a chael gwared ar rwystrau er mwyn i sylfaenwyr anabl ffynnu.

Trwy adnoddau am ddim megis gweminarau, digwyddiadau rhwydweithio ar-lein ac yn bersonol, rhaglen fentora newydd wedi'i theilwra a mwy, mae'r Ganolfan LILAC yn ofod i hyrwyddo entrepreneuriaeth gynhwysol a rhoi sylw i fusnesau sy'n cael eu harwain gan entrepreneuriaid anabl, byddar a niwroamrywiol.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: The Lilac Centre.

Ydych chi eisiau ehangu'r gronfa o dalent sydd ar gael i chi? Ydych chi am gymryd camau cadarnhaol i greu gweithlu cynhwysol ac amrywiol? Mae'n haws na fyddech chi'n ei ddisgwyl. Mae canllawiau ar gael i'ch helpu chi i: Cyflogaeth Pobl Anabl | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.