Cyflogi pobl anabl
Ydych chi eisiau ehangu'r gronfa o dalent sydd ar gael i chi? Ydych chi am gymryd camau cadarnhaol i greu gweithlu cynhwysol ac amrywiol? Mae'n haws na fyddech chi'n ei ddisgwyl. Mae canllawiau ar gael i'ch helpu chi i:
- ddeall sut i wneud eich arferion recriwtio a chyflogaeth yn fwy cynhwysol
- gwneud addasiadau rhesymol yn y gweithle a chael mynediad at gymorth ariannol
- recriwtio prentis anabl a chael cymorth ariannol
- cefnogi eich gweithwyr presennol os byddant yn mynd yn anabl neu'n cael amhariad iechyd, tra'n gweithio i chi
- deall manteision dod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd
- Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd
- Deall eich cyfrifoldebau cyfreithiol.
Cyngor, arweiniad a chefnogaeth
Mae tîm Llywodraeth Cymru o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl ar gael i roi cyngor ymarferol ar bob mater sy'n ymwneud â recriwtio a chadw gweithwyr anabl. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol, cyngor ar weithredu addasiadau rhesymol, ac arweiniad ar sut i ddod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â HCPA@llyw.cymru
Mae'r Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn darparu cyngor ac arweiniad ymarferol i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd ar recriwtio gweithwyr anabl. Byddant yn bwynt cyfeirio ar gyfer busnesau a chyflogwyr, gan helpu busnesau i lunio a mabwysiadu prosesau a pholisïau sy'n cydymffurfio â'r gyfraith i sicrhau eu bod yn denu, recriwtio a chadw pobl anabl yn eu busnes.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â:
Catherine.Rowland@BusinessWales.org /Lisa.James-Gillum@BusinessWales.org
Mae Mynediad at Waith yn gynllun gan Lywodraeth y DU a all eich cefnogi i:
- gyflogi pobl anabl gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch
- cadw gweithiwr sy'n mynd yn anabl neu'n cael amhariad iechyd, gan gadw ei sgiliau gwerthfawr ac arbed amser ac arian yn recriwtio rhywun newydd
- dangos eich bod yn gwerthfawrogi eich cyflogeion ac y byddwch yn eu cefnogi drwy gael polisïau ac arferion cyflogaeth da.
Gall eich gweithiwr gael cymorth gyda'r costau gweithio ychwanegol a allai fod ganddynt oherwydd eu bod yn anabl neu â amhariad iechyd, er enghraifft:
- cymorth ac offer yn y gweithle
- addasu offer i'w gwneud yn haws iddynt eu defnyddio
- arian tuag at unrhyw gostau teithio ychwanegol i'r gwaith ac yn ôl os na allant ddefnyddio'r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael
- arian tuag at unrhyw gostau teithio ychwanegol ar gyfer teithio yn y gwaith
- cyfieithydd neu gymorth arall mewn cyfweliad swydd lle mae anawsterau cyfathrebu
- amrywiaeth eang o weithwyr cymorth
- Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad i Waith
- cymorth ymarferol arall fel hyfforddiant ar gyfer swydd neu ddehonglydd iaith arwyddo.
Am ragor o wybodaeth, gweler: Mynediad at Waith:
Cynllun Llywodraeth y DU yw Hyderus o ran Anabledd sy'n annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a gweithredu i wella sut maent yn recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl.
BMae bod yn hyderus o ran anabledd yn gyfle unigryw i arwain y ffordd yn eich cymuned, ac efallai y byddwch yn darganfod rhywun na all eich busnes wneud hebddo.
Am ragor o wybodaeth, gweler: Hyderus o ran Anabledd
Recriwtio prentis i ehangu eich gweithlu a'i sylfaen sgiliau. Mae cymorth ar gael tuag at gost hyfforddiant ac asesiadau. Byddwch yn gweithio gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy a fydd yn rheoli rhaglen hyfforddi ac asesu'r prentis.
Am ragor o wybodaeth, gweler: Prentisiaethau
Mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ein helpu i ddeall nad yw pobl yn anabl oherwydd eu amhariad neu eu cyflwr iechyd; maent yn cael eu hanablu gan y rhwystrau sy'n eu hwynebu, p'un a yw'r rhain yn bodoli mewn cymdeithas, yn eu hamgylchedd ffisegol, neu drwy agweddau pobl ac ymddygiad gwahaniaethol. Nid oes gan bobl sydd ag amhariadau a chyflyrau iechyd anabledd, maent 'wedi'u hanablu'.
Am ragor o wybodaeth, gweler: Model Cymdeithasol – Anabledd Cymru
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cyflogwr gadw at Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae amrywiaeth o wybodaeth ar gael i'ch helpu i ddeall a chyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol.
Am ragor o wybodaeth, gweler: