Ymunwch â'n gweminari archwilio'r Model Cymdeithasol o Anabledda dysgu sut i gefnogi pobl anabl yn eich gweithle.
Bydd y sesiwn yn eich helpu i ddeall sut mae pobl yn cael ei hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas neu'r gweithle, trwy adeiladau anhygyrch neu agweddau hen ffasiwn, yn hytrach nag oherwydd eu amhariadau. P'un a’i eich bod yn edrych i wella diwylliant yn y gweithle, deall sut i wneud addasiadau rhesymol, neu’n bod yn gynghreiriad gwell, mae'r sesiynau yma’n darparu syniadau ar sut i adeiladu gweithle gwirioneddol gynhwysol.
Mae'r sesiynau'n cael eu cyflwyno gan dîm Llywodraeth Cymru o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl sydd â phrofiad personol o fod yn anabl neu'n gofalu am berson anabl.
Sesiynau Cymraeg:
Sesiynau Saesneg:
- 19 Chwefror 2026, 10am
- 25 Chwefror 2026, 12pm
- 4 Mawrth 2026, 10.30am
- 26 Mawrth 2026, 11am
- 8 Ebrill 2026, 10.30am
- 30 Ebrill 2026, 11am
Mae'r Hyrwyddwyr ar gael i ddarparu cyngor a chefnogaeth, yn rhad ac am ddim, ar bob mater sy'n ymwneud â recriwtio, cadw a dilyniant gweithwyr anabl. Cysylltwch â ni yma – HCPA@llyw.cymru
Ydych chi eisiau ehangu'r gronfa o dalent sydd ar gael i chi? Ydych chi am gymryd camau cadarnhaol i greu gweithlu cynhwysol ac amrywiol? Mae'n haws na fyddech chi'n ei ddisgwyl. Mae canllawiau ar gael i'ch helpu chi: Cyflogaeth Pobl Anabl | Busnes Cymru.