Newyddion

The Great British Pitch - UDA

Union Jack and US flags

 Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflwyno eich busnes gwych, Prydeinig i brynwyr rhyngwladol yn yr Unol Daleithiau, ac a ydych chi ar gael ar gyfer digwyddiad wyneb yn wyneb diwrnod o hyd yn Llundain ddydd Mawrth 8 Medi 2026?

Mae Small Business Britain yn chwilio am fusnesau yn y sectorau canlynol:

  • Bwyd a Diod
  • Nwyddau Traul / Manwerthu

Cewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i fod yn barod i gyflwyno eich busnes, a bydd arbenigwyr allforio yn ymuno â chi ar y diwrnod, i gynnig eu cyngor ac i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich awr fawr.

Yn ogystal â chael y cyfle i gyflwyno eich busnes ar draws y byd, trwy lif byw i brynwyr sy’n benodol i’ch diwydiant arbenigol, cewch gyfle i rwydweithio â pherchnogion busnesau bach eraill, pob un yn awyddus i ddod o hyd i farchnadoedd newydd, byd-eang ar gyfer eu cynnyrch a'u gwasanaethau.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Great British Pitch.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ehangu, tyfu a chryfhau eich busnes. Os ydych chi'n awyddus i wella'ch strategaeth, cael gafael ar gyllid, recriwtio'r tîm cywir, lleihau eich ôl troed carbon, neu archwilio marchnadoedd newydd, mae ein harweinwyr arbenigol yn y diwydiant yma i helpu.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.