Cychwynnwch ar eich taith i wneud eich busnes yn fwy cynhyrchiol.
Mae bod yn gynhyrchiol yn golygu creu mwy o werth o’ch adnoddau presennol. Gall yr adnoddau hyn gynnwys adeiladau, tir, llafur, peiriannau ac offer. Gallwch wella eich cynhyrchiant drwy gynyddu faint o’ch nwyddau neu’ch gwasanaethau presennol rydych yn eu gwerthu, ond hefyd drwy gynhyrchu cynnyrch â mwy o werth.
Efallai mai ambell newid bach sydd ei angen er mwyn datgloi eich potensial? Bwriad Pecyn Cymorth Fforwm Cynhyrchiant Cymru yw helpu Busnesau Bach a Chanolig Cymru i asesu, cynllunio a gwella cynhyrchiant yn gyflym.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Wales Business Toolkit - The Productivity Institute.
Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ehangu, tyfu a chryfhau eich busnes. P'un ai yw'ch busnes yn tyfu'n gyson neu'n ehangu'n gyflym, byddwn yn gweithio gyda chi i nodi cyfleoedd, goresgyn heriau, a datgloi eich potensial llawn - bob cam o'r ffordd: Oes Gennych chi Fusnes yn Barod? | Busnes Cymru.