Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o wyliau teithiol ieuenctid blynyddol mwyaf Ewrop.
Eleni, Ynys Môn yw cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Faes Sioe Amaethyddol Ynys Môn, Gwalchmai, o ddydd Sadwrn, 23 Mai tan ddydd Gwener, 29 Mai 2026.
Mae'r ŵyl yn ddathliad o iaith a diwylliant Cymru gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc dan 25 oed yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod mewn amryw o gystadlaethau fel canu, dawnsio a pherfformio.
Disgwylir y bydd yr ŵyl yn denu bron i 100,000 o ymwelwyr.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Ynys Môn 2026 | Urdd Gobaith Cymru.
Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyfieithu a chyngor Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae'n rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru).