
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw un o wyliau blynyddol teithiol mwyaf Ewrop i bobl ifanc, ac eleni bydd yn cael ei chynnal ym Mharc Margam (Castell-nedd Port Talbot) rhwng 26 Mai a 31 Mai 2025.
Mae'r ŵyl yn ddathliad o'r iaith a'r diwylliant Cymraeg gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc dan 25 oed yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod mewn cystadlaethau amrywiol fel canu, dawnsio a pherfformio.
Mae'r ŵyl yn denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae ganddi tua 200 o stondinau felly manteisiwch ar y cyfle hwn i hyrwyddo eich busnes neu sefydliad i gynulleidfa sy'n siarad Cymraeg yn gyffredinol!
Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Dur a Môr 2025 | Urdd Gobaith Cymru
Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn eich busnes wneud gwahaniaeth mawr. Helo Blod yw eich gwasanaeth cyfieithu a chyngor Cymraeg cyflym a chyfeillgar. Ac mae'n rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)