Newyddion

Ehangu cynllun grant ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith

Mark Drakeford

Gall grwpiau cymunedol ledled Cymru bellach wneud cais am grantiau o hyd at £10,000 i'w helpu i ddechrau busnes cymdeithasol neu brosiect tai sy'n cael ei arwain gan y gymuned.

Ers dros dair blynedd, mae'r cynllun wedi cefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi, gan ddyfarnu 64 o grantiau ar draws Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Nawr bydd hyd yn oed mwy o gymunedau yn gallu elwa ar y grant wrth i’r cynllun agor ledled Cymru gyfan, gyda'r cyllid yn cynyddu i £400,000 eleni.

Mae cynllun grant Perthyn wedi helpu Bys a Bawd Pawb i sefydlu fel Cymdeithas Budd Cymunedol yn Llanrwst, Conwy, lle mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd gyda'r nod o brynu a rhedeg siop sydd yn werthfawr i'r gymuned ac sydd wedi eu gwasanaethu ers 50 mlynedd. Nod y prosiect yw creu canolfan lenyddol Gymraeg, darparu llety fforddiadwy i bobl leol uwchben y siop yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli.

Mae Hwb Penmachno hefyd wedi derbyn dyfarniad grant Perthyn, i helpu'r gymuned gydag elfennau cynnar o'u menter tai dan arweiniad y gymuned.

Rhaid i grwpiau cymunedol wneud cais erbyn 21 Tachwedd 2025 ar yr hwyra.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth: Perthyn - Cwmpas.

Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.