Newyddion

Dros £3 miliwn i gymunedau Cymraeg

children in a boat at Glan Llyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £3.1 miliwn i gryfhau cymunedau Cymraeg ledled Cymru.

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys £2.7 miliwn i uwchraddio canolfannau preswyl yr Urdd ym Mhentre Ifan, Llangrannog a Glan-llyn, ynghyd â £400,000 drwy’r cynllun grant Perthyn i helpu cymunedau i sefydlu mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai dan arweiniad y gymuned.

Nod y buddsoddiad yw cryfhau cyfleusterau cymunedol, cefnogi economïau lleol a chreu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol.

I ddarllen y datganiad llawn dewisiwch y ddolen ganlynol: Dros £3 miliwn i gymunedau Cymraeg | LLYW.CYMRU.

Cymraeg Yn Eich Busnes: Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi.

Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae’r dudalen yma, Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu. 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.