Newyddion

Diwrnodau Datrysiadau Seiber ECSO – Caerdydd 2026

female tech engineer

Mae Diwrnodau Datrysiadau Seiber Sefydliad Seiberddiogelwch Ewrop (ECSO) yn ôl gyda digwyddiad newydd sbon.

Wedi'i drefnu gyda The Cyberhive EUROPE gan ECSO, Women4Cyber Foundation, Llywodraeth Cymru a'r Hyb Arloesedd Seiber, cynhelir y digwyddiad ar 24 Mawrth 2026 yn sbarc|spark yng Nghaerdydd.

Mae'r digwyddiad hwn yn cysylltu Prif Swyddogion Diogelwch Gwybodaeth ac arweinwyr corfforaethol â darparwyr seiberddiogelwch Ewropeaidd blaenllaw i rannu dealltwriaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid o'r gymuned seiberddiogelwch Ewropeaidd ar y pwnc 'Cymwysiadau arloesol AI ar gyfer dyfodol digidol cadarn'.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru: Home | ECSO Cyber Solution Days – Cardiff 2026.

I gael gwybodaeth a chyngor ar Seiberddiogelwch ar gyfer eich busnes, edrychwch ar y canllaw Pam fod Seiberddiogelwch yn Bwysig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.