Newyddion

Diwrnod Shwmae Su’mae 2026

Diwrnod Shwmae Su’mae 2026

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn cael ei gynnal yn flynyddol ar 15 Hydref. Mae’n ddathliad cenedlaethol o’r Gymraeg, ble bynnag rydych chi’n byw a beth bynnag fo’ch lefel.

Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith, yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, gyda ffrindiau. Yn y gorffennol dathlodd ysgolion, bwytai a gorsafoedd radio.

Eleni, bydd yr ymgyrch “Pwy Sy’n Dweud Shwmae?” yn annog pobl o bob oed, cefndir a chymuned i rannu fideo ohonynt eu hunain, neu rywun yn eu cymuned, gan ddangos pwy ydyn nhw, o ble maen nhw’n dod, a sut mae’r Gymraeg yn rhan o’u bywydau. 

Mae syniadau eraill i ddathlu’r diwrnod ar gael ar wefan Shwmae Su’mae: Shwmae. Cymru, gyda sticeri, ffrâm hunlun a swigod ‘shwmae’ ar gael i’w lawrlwytho. 

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Beth yw Diwrnod Shwmae Sumae?

Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.