
Cael hwyl wrth siarad Cymraeg bydd prif thema Diwrnod Shwmae Su’mae 2025 wrth i Mentrau Iaith Cymru baratoi ar gyfer y digwyddiad blynyddol. Bydd yr ymgyrch yn cyrraedd uchafbwynt ar ddiwrnod cenedlaethol o ddathlu, dydd Mercher, 15 Hydref.
Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith, yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, gyda ffrindiau. Yn y gorffennol dathlodd ysgolion, bwytai a gorsafoedd radio.
Eleni, bydd yr ymgyrch yn annog pobl i rannu clip fideo o’u hunain yn mwynhau gweithgaredd yn y Gymraeg gan fachu ar fomentwm blwyddyn ‘Hwyl’ Croeso Cymru.
Cofiwch dagio ni yn eich postiadau am ddigwyddiadau 2025, ddefnyddio’r hashnodau #Hwyl a #shwmaesumae25 a thagio @ShwmaeSumae ar Facebook neu @diwrnodshwmaesumae ar Instagram a TikTok.
Mae syniadau eraill i ddathlu’r diwrnod ar gael ar wefan Shwmae Su’mae: Shwmae. Cymru, gyda sticeri, ffrâm hunlun a swigod ‘shwmae’ ar gael i’w lawrlwytho. Ar gyfer cymorth neu gyngor ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â diwrnodshwmae@gmail.com
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Beth yw Diwrnod Shwmae Sumae?
Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, yn dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.