Newyddion

Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr 2026

Happy group of people

Dathliad blynyddol o Berchnogaeth Gweithwyr (PG) yw Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr, ac mae’n rhoi’r cyfle i filoedd o berchnogion sy’n weithwyr, busnesau PG a chefnogwyr PG ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth ac addysgu am fuddion perchnogaeth gan weithwyr. Bydd yn cael ei gynnal ar 19 Mehefin 2026.

Os ydych chi eisiau gwerthu'ch busnes neu'n bwriadu datblygu eich busnes a gwobrwyo a chadw staff, mae PG yn opsiwn arloesol sydd â buddion masnachol profedig.  Trwy drosglwyddo perchnogaeth i'ch gweithwyr, gallwch sicrhau’r gwerth mwyaf posibl ar gyfer eich busnes a gwella perfformiad y busnes, gan sicrhau ar yr un pryd bod eich gwaddol yn parhau am amser maith i'r dyfodol.

Gydag ymchwil yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn perfformio'n well a chanddynt weithwyr sy’n ymgysylltu’n well ac yn fwy ymroddgar, mae PG hefyd yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg entrepreneuriaid sy'n sefydlu busnesau newydd, er mwyn helpu i ddenu a gwobrwyo gweithwyr dawnus a sbarduno twf busnes.

Cliciwch ar y dolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Perchnogaeth gan Weithwyr | Busnes Cymdeithasol Cymru a Perchnogaeth Gweithwyr Cymru.

Eisiau cychwyn busnes sy’n gwneud gwahaniaeth? Gallwn ni eich helpu chi: Hafan | Social Business Wales.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.