Newyddion

Diwrnod Mentrau Cymdeithasol 2026

Hands touching - partnership working

Cynhelir Diwrnod Mentrau Cymdeithasol eleni ar 19 Tachwedd.

Mae'r diwrnod yn gyfle gwych i helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fentrau cymdeithasol yn ogystal â dathlu eich menter gymdeithasol a sut rydych chi'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Get ready for Social Enterprise Day - 19 November 2026 | Social Enterprise UK.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu menter gymdeithasol neu os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â Cwmpas neu edrychwch ar dudalennau Busnes Cymdeithasol Cymru ar wefan Busnes Cymru sy'n rhoi llawer o wybodaeth werthfawr am sefydlu a rhedeg menter gymdeithasol.     


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.