Cynhelir Diwrnod Mentrau Cymdeithasol eleni ar 20 Tachwedd.
Mae'r diwrnod yn gyfle gwych i helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fentrau cymdeithasol yn ogystal â dathlu eich menter gymdeithasol a sut rydych chi'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu menter gymdeithasol neu os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â Cwmpas neu edrychwch ar dudalennau Busnes Cymdeithasol Cymru ar wefan Busnes Cymru sy'n rhoi llawer o wybodaeth werthfawr am sefydlu a rhedeg menter gymdeithasol.