Newyddion

Diogelu’r Dyfodol: Cynhadledd Menywod ym maes Seiber 2026

female engineer - cyber

Y drydedd gynhadledd genedlaethol yn arddangos ac yn dathlu gwaith menywod yn y sector seiberddiogelwch.

Cynhelir y gynhadledd seiberddiogelwch genedlaethol ar gyfer menywod a chynghreiriaid ar 23 Mawrth 2026 yn ICC Cymru.

Bydd y digwyddiad yn dathlu'r gwaith y mae menywod yn ei wneud yn y sector, gan arddangos eu talent ar draws ystod eang o wahanol swyddi a chan ddangos pa mor bwysig yw hi i gael gweithlu cynhwysol. Bydd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar y bygythiadau a’r heriau seiberddiogelwch sy’n bodoli ar hyn o bryd, ar ddatblygu sgiliau, a thyfu eich rhwydwaith, yn ogystal â gweithgaredd seiberddiogelwch rhyngweithiol, addas ar gyfer pob lefel.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle: Diogelu’r Dyfodol: Women in Cyber Tickets, Mon, 23 Mar 2026 at 09:00 | Eventbrite.

Mae ymosodiadau seiber yn fygythiad cynyddol i fusnesau o bob maint. Gall ymosodiadau amharu ar weithrediadau, peryglu data sensitif, a niweidio enw da. I gael cyngor a chymorth ynghylch seiberddiogelwch, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.