Newyddion

Defnyddia dy Gymraeg 2026

Defnyddia dy Gymraeg

Bydd ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' yn rhedeg rhwng 16 Tachwedd a 7 Rhagfyr 2026.

Bydd yn gyfle i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r ymgyrch hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Nod yr ymgyrch yw annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, ac i fusnesau, elusennau a sefydliadau o bob math hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd.

Dylid annog pobl o bob oed o bob cefndir ar draws Cymru i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd – yn y cartref, yn y gwaith, yn y siop, wrth gymdeithasu, dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg'.

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch cynghori ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Helo Blod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.