Nodyn atgoffa pwysig bod yn rhaid i fusnesau ledled y DU gael proses gwyno diogelu data ar waith, wrth i'r gofynion cyfreithiol newydd ddod i rym ar 19 Mehefin 2026.
Mae Deddf Data Defnydd a Mynediad 2025 (DUAA) yn Ddeddf Seneddol newydd sy'n diweddaru cyfreithiau penodol am faterion gwybodaeth ddigidol.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i ddelio â chwynion diogelu data i gefnogi busnesau i fodloni'r gofynion newydd hyn.
I gael gwybodaeth a chyngor ar Seiberddiogelwch ar gyfer eich busnes, edrychwch ar y canllaw Pam fod Seiberddiogelwch yn Bwysig.