
Wrth i ddeallusrwydd artiffisial (DA) yn gynyddol ddod yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd mae Comisiynydd y Gymraeg heddiw (7 Awst) yn cyhoeddi polisi ar y defnydd ohono gan sefydliadau sydd yn dod o dan Safonau’r Gymraeg.
Ers cyflwyno safonau'r Gymraeg yn 2016, mae llawer wedi newid ym maes technoleg, gyda’r defnydd o’r Gymraeg mewn systemau DA yn fwy effeithiol nag erioed o'r blaen. Mae'r defnydd o DA yn galluogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon, personol a hygyrch gan gynnig manteision sylweddol i'r Gymraeg, ac o bosib sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol ac yn fyw mewn byd digidol.
Ond wrth fabwysiadu'r technolegau newydd hyn, mae'n hanfodol bod sefydliadau yn parhau i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Deallusrwydd artiffisial a safonau’r Gymraeg
Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a ph'un a ydych yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gymorth nag erioed o'r blaen i helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru