Yr haf hwn, bydd cyfres o ddathliadau arbennig yn nodi 850 mlynedd ers i’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf gael ei chynnal, gan greu cyfle i ymfalchïo yn hanes diwylliannol Cymru ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg.
Gyda chefnogaeth o £250,000 gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y rhaglen yn dod â stori'r Eisteddfod gyntaf yn fyw drwy weithgareddau addysgol, creadigol a chymunedol. Ei nod yw ysbrydoli pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a phontio’r gorffennol â’r presennol.
Bydd wythnos yr Eisteddfod (1-8 Awst) hefyd yn cynnwys pob math o weithgareddau a digwyddiadau sy’n dathlu cyrraedd yr 850, gan asio’r gorffennol gyda’r presennol ar draws pob un o’r llwyfannau amrywiol.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi ymgyrch ddigidol i ymestyn y dathliadau ar-lein, gan godi proffil yr Eisteddfod a chyflwyno ei stori i gynulleidfaoedd newydd ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Fel digwyddiad diwylliannol mwyaf Cymru, mae'r Eisteddfod yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Bydd y cyllid yn ogystal yn cefnogi gwaith yr Eisteddfod i gyflwyno mesurau ymarferol pellach i leihau allyriadau a helpu'r ŵyl i barhau i arwain y ffordd fel yr ŵyl gyntaf yng Nghymru i gyrraedd net sero.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Dathlu 850 mlynedd o'r Eisteddfod ac ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd | LLYW.CYMRU.
Mae cannoedd o fusnesau yn gweld buddion o ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, a’r gymuned, ac yn rhoi mantais gystadleuol i chi.
Does dim rhaid mynd ati i wneud popeth yn Gymraeg yn syth. Mae’n hawdd cymryd camau bychain i ddatblygu yn syth. Mae’r dudalen yma’n, Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru, dangos sut i gychwyn eich taith i ddatblygu’r Gymraeg, a’r cymorth sydd ar gael gan wahanol sefydliadau i’ch helpu.