Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Mae rhybudd Coch prin ynghylch gwres eithafol wedi'i gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru ddydd Mercher a dydd Iau, ac rwyf am bwyso ar bobl Cymru i roi sylw gofalus i'r rhybudd difrifol hwn a'r camau ychwanegol y mae angen inni i gyd eu cymryd i ofalu amdanom ni ein hunain ac am eraill.
Gall salwch sy'n gysylltiedig â gwres effeithio ar unrhyw un, beth bynnag eu hoedran neu eu hiechyd - ond i bobl hŷn, babanod a phlant ifanc iawn y mae'r risgiau mwyaf, sy'n gallu dirywio'n gyflym mewn tymheredd uchel.
Rhaid inni i gyd ddilyn cyngor iechyd y cyhoedd, yfed digon, osgoi bod y tu allan yn ystod adeg boethaf y dydd os yw'n bosibl, a sicrhau bod gofalu am bobl sy'n agored i niwed yn flaenoriaeth.
Gallai cymryd ychydig funudau i gael gair gyda theulu, ffrindiau a chymdogion achub bywydau.
Gallai fod yn demtasiwn manteisio ar lynnoedd neu afonydd i oeri, ond mae sioc dŵr oer yn berygl gwirioneddol wrth neidio i mewn. Ni ddylech fyth nofio mewn cronfa ddŵr. Os cewch eich hun mewn trafferth yn y dŵr, cofiwch y cyngor hwn a all achub eich bywyd: #ArnofioIFyw.
Rydym wedi rhoi trefniadau cydlynu ymateb Llywodraeth Cymru ar waith i fonitro a rheoli effeithiau'r gwres difrifol ar draws y meysydd rydym yn gyfrifol amdanynt, gan weithio'n agos gyda Fforymau Gwydnwch Lleol a chyda Llywodraeth y DU. Byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf yn gyson…
I ddarllen y datganiad llawn dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Rhybudd Gwres Coch i Gymru (23 Mehefin 2026) | LLYW.CYMRU.
Darllenwch ein post newyddion am 'Gweithio pan fo hi’n boeth': Gweithio pan fo hi’n boeth | Busnes Cymru.