Newyddion

Dadgodio AI a Seiberddiogelwch – digwyddiadau i fusnesau bach

Cyber security - digital padlock

Mae'r Hyb Arloesedd Seiber mewn partneriaeth â BT yn cyflwyno digwyddiadau i gefnogi busnesau bach – Dadgodio AI a Seiberddiogelwch.

Mae gan fusnesau bach uchelgeisiau mawr ac yn y byd digidol sy'n symud yn gyflym heddiw, nid yw Deallusrwydd Artiffisial (AI) a seiberddiogelwch bellach yn "braf i'w gael". Ond daw risg hefyd gyda'r cyfle mae'r offer hyn yn ei gynnig.

Mae'r digwyddiadau wyneb yn wyneb am ddim wedi'u cynllunio i helpu arweinwyr busnesau bach i ddeall sut i ddefnyddio AI yn ddiogel, i ddiogelu eu busnes ac sydd eisiau:

  • Deall sut i ddefnyddio AI yn effeithiol yn eu busnes
  • Defnyddio offer digidol i arbed amser a hybu cynhyrchiant
  • Diogelu eu data, eu systemau a'u cwsmeriaid rhag bygythiadau seiber
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus heb angen arbenigedd technegol

Mae'r digwyddiadau yn ddelfrydol ar gyfer:

  • Perchnogion a sylfaenwyr busnesau bach
  • Penderfynwyr nad ydynt yn dechnegol
  • Unrhyw un sy'n gyfrifol am offer digidol, data neu ddiogelwch ar-lein mewn busnes bach

Pryd a ble:

I gael gwybodaeth a chyngor ar Seiberddiogelwch ar gyfer eich busnes, edrychwch ar y canllaw Pam fod Seiberddiogelwch yn Bwysig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.