Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) yn cynnal Cynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru ar gyfer perchnogion, entrepreneuriaid, a’r rhai sy’n awyddus i sefydlu eu cwmnïau eu hunain.
Bydd #FSBNWCONF26 yn dod â siaradwyr arbenigol, cefnogaeth busnes, a chyfleoedd rhwydweithio ynghyd - a’r cyfan er mwyn eich helpu chi i ehangu a chryfhau eich busnes.
Pam Ddylech Chi Ddod:
- Cewch ddealltwriaeth ymarferol o frandio, gwerthu ac AI
- Cewch ddysgu gan arbenigwyr y diwydiant ac entrepreneuriaid llwyddiannus
- Cewch gysylltu â busnesau lleol a sefydliadau cymorth
- Cewch ddysgu am offer a strategaethau i roi hwb i'ch twf a'ch gwelededd
Opsiynau Tocynnau:
- Aelodau'r FSB: £12.00
- Eraill: £20.00
Cynhelir y gynhadledd ar 8 Gorffennaf 2026 yn Venue Cymru, Llandudno ac mae cyfleoedd ar gael i arddangoswyr.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cynhadledd Busnesau Bach Gogledd Cymru.
Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ehangu, tyfu a chryfhau eich busnes. P'un ai yw'ch busnes yn tyfu'n raddol neu'n ehangu'n gyflym, byddwn yn gweithio gyda chi i nodi cyfleoedd, goresgyn heriau, a datgloi eich potensial llawn – bob cam o'r ffordd. Oes Gennych chi Fusnes yn Barod? | Busnes Cymru.