Bydd baeau a blaengyrtiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru yn elwa ar ryddhad ardrethi annomestig llawn nes 2036.
Nod y cam hwn, a gyhoeddwyd heddiw gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, yw cael gwared ar rwystr posibl i fuddsoddi ar adeg dyngedfennol o ran twf cerbydau trydan.
Bydd y rhyddhad ardrethi annomestig o 100% yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r seilwaith angenrheidiol i helpu gyrwyr i wneud y newid, yn arbennig mewn ardaloedd nad oes ganddynt ddigon o bwyntiau gwefru ar hyn o bryd.
Yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, gofynnir i awdurdodau lleol ddyfarnu’r rhyddhad gan ddefnyddio eu pwerau yn ôl disgresiwn. Lle bo hynny’n berthnasol, bydd hyn yn caniatáu i ryddhad gael ei ôl-ddyddio i ddechrau blwyddyn ariannol 2024-25.
Bydd rheoliadau yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni i roi’r rhyddhad ar sail statudol rhwng 2027-28 a 2035-36. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd hyn yn rhoi sicrwydd i dalwyr ardrethi ac awdurdodau lleol yn y blynyddoedd i ddod.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Cymru’n ymrwymo i ddegawd o ryddhad ardrethi i sbarduno’r seilwaith gwefru cerbydau trydan | LLYW.CYMRU.