Ynglŷn â'r canllawiau hyn
Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (awdurdodau lleol) i weinyddu'r Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Mannau Gwefru Cerbydau Trydan (y rhyddhad). Mae'r rhyddhad yn gymwys i Gymru yn unig.
Mae'r canllawiau'n gosod y meini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i bennu'r cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer rhyddhad sy'n cael ei ddarparu i eiddo cymwys. Nid yw'r canllawiau'n disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ar ardrethi annomestig nac unrhyw fath arall o ryddhad.
Dylid anfon ymholiadau bilio ynglŷn â'r rhyddhad i'r awdurdod lleol perthnasol. Mae manylion cyswllt yr awdurdodau lleol i'w gweld ar wefan Busnes Cymru.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r polisi neu'r canllawiau i: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru
Mae'r rhyddhad yn cael ei gynnig tan 31 Mawrth 2036. Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2027, bydd yn cael ei ddyfarnu o dan bwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu er mwyn i'r rhyddhad barhau ar sail statudol, rhwng 1 Ebrill 2027 a 31 Mawrth 2036.
Cyflwyniad
Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at weithredwyr cymwys lleoedd parcio a blaengyrtiau sy'n fannau gwefru cerbydau trydan. Bydd yn gohirio dechrau'r atebolrwydd am ardrethi annomestig, gan gefnogi'r broses barhaus o gyflwyno'r seilwaith gwefru sydd ei angen dros y cyfnod. Drwy ddarparu rhyddhad, mae hyn yn osgoi creu rhwystr ariannol posibl a allai atal gweithredwyr rhag mynd ar drywydd twf pellach.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu'r rhyddhad i fusnesau cymwys yn ystod 2026-27. Bydd hyn hefyd yn cynnwys rhyddhad wedi'i ôl-ddyddio ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024-25 a 2025-26, lle bo'n berthnasol. Bydd y rhyddhad yn cefnogi gweithredwyr eiddo cymwys drwy ddarparu gostyngiad llawn (100%) yn eu biliau ardrethi annomestig.
Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau ynghylch rhoi'r rhyddhad hwn ar waith a'i gyflwyno.
Sut y bydd y rhyddhad yn cael ei ddarparu?
Yn ystod 2026-27, rydym yn darparu'r rhyddhad drwy roi ad-daliad i awdurdodau lleol sy'n defnyddio eu pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Yr awdurdodau lleol unigol eu hunain fydd yn mabwysiadu cynllun ac yn penderfynu ym mhob achos a ddylid caniatáu'r rhyddhad o dan adran 47. Bydd y mecanwaith hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu rhyddhad rhag yr atebolrwydd am ardrethi annomestig yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol 2024-25 i 2026-27, ond nid yw'n caniatáu ar gyfer darparu rhyddhad wedi'i ôl-ddyddio mewn cysylltiad â 2023-24.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ad-daliad i'r awdurdodau lleol am y rhyddhad sy'n cael ei ddarparu yn unol â'r canllawiau hyn drwy grant o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu i ddarparu'r rhyddhad hwn ar sail statudol yn y blynyddoedd i ddod, rhwng 1 Ebrill 2027 a 31 Mawrth 2036.
Rhagwelir y gallai awdurdodau lleol ddyfarnu'r rhyddhad yn awtomatig i dalwyr ardrethi cymwys wrth i'r hereditamentau perthnasol gael eu hychwanegu at eu rhestrau ardrethu lleol. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a hygyrch i fusnesau ynghylch manylion y rhyddhad a'r broses weinyddu.
Pa eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?
At ddibenion y rhyddhad hwn, mae eiddo cymwys yn golygu eiddo sy'n cynnwys yn gyfan gwbl neu'n bennaf fan gwefru cerbydau trydan, ynghyd â lle parcio cysylltiedig, neu flaengwrt man gwefru cerbydau trydan. Mae hyn yn golygu bod lle parcio neu flaengwrt cymwys yn cael ei asesu yn hereditament annibynnol at ddibenion ardrethi annomestig. Mae gan hereditamentau perthnasol y cod Categori Arbennig 718 a neilltuwyd gan Swyddfa Brisio CThEF.
Er mwyn bod yn gymwys i gael y rhyddhad, rhaid i'r man gwefru cerbydau trydan fod wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio'n bennaf gan aelodau o'r cyhoedd. Gall y rhyddhad barhau i fod yn gymwys os yw man gwefru yn rhoi'r gorau i weithredu dros dro ac felly, nid yw ar gael i'w ddefnyddio.
Nid yw eiddo sy'n cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, ond sy'n cael eu defnyddio at ddiben ehangach, yn gymwys. Mae enghreifftiau'n cynnwys maes parcio sy'n cynnwys rhai mannau gwefru cerbydau trydan o dan un asesiad neu flaengwrt cymysg sy'n darparu mannau gwefru cerbydau trydan ochr yn ochr â thanwyddau eraill (e.e. petrol a disel). Ni fyddai eiddo o'r fath yn bodloni'r meini prawf cymhwystra a ddisgrifir uchod.
Faint o ryddhad sydd ar gael?
Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael ar gyfer pob eiddo yw 100% o'r bil perthnasol.
Ar gyfer 2026-27 a blynyddoedd blaenorol, dylid cymhwyso'r rhyddhad i'r bil net sy'n weddill ar ôl gweithredu unrhyw ryddhad gorfodol (gan gynnwys elfennau yn ôl disgresiwn a ariennir yn llawn neu'n rhannol gan yr awdurdod lleol) ac unrhyw ryddhad arall yn ôl disgresiwn a ariennir gan grantiau adran 31 (ac eithrio'r rhai pan fo awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau rhyddhad ehangach yn ôl disgresiwn a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ariennir gan grantiau adran 31). Yn benodol, disgwylir i rai eiddo fod yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach, y dylid ei gymhwyso cyn y rhyddhad hwn yn 2026-27 a blynyddoedd blaenarol.
Newidiadau i hereditamentau presennol, gan gynnwys newid meddiannydd
Os oes newid meddiannydd yn ystod y flwyddyn ariannol, ar ôl i ryddhad gael ei ddarparu i'r hereditament, bydd gan y meddiannydd newydd hawl i gael y rhyddhad os yw'n gymwys, a hynny ar sail pro-rata. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar weddill y dyddiau meddiannu. Dylai hereditament a grëwyd o ganlyniad i raniad neu uniad yn ystod y flwyddyn ariannol, neu pan fo newid defnydd wedi bod, gael ei ystyried o'r newydd ar gyfer y rhyddhad ar y diwrnod hwnnw.
Rheoli cymorthdaliadau
Mae'r Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Mannau Gwefru Cerbydau Trydan yn cael ei drin fel cymhorthdal. Mae cynllun cymhorthdal ar gyfer y rhyddhad wedi'i gofrestru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a chronfa ddata cymorthdaliadau'r DU. Mae hyn yn golygu nad yw rhyddhad a ddarperir o dan y cynllun cymhorthdal yn cyfrif tuag at lwfans Cymorth Ariannol Lleiaf talwr ardrethi.
Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau rheoli cymorthdaliadau perthnasol, gan gynnwys y gofynion o ran tryloywder. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau rheoli cymorthdaliadau statudol y DU gan Lywodraeth y DU.
I gael rhagor o gyngor, gallwch gysylltu ag Uned Rheoli Cymorthdaliadau Llywodraeth Cymru yn:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru