Newyddion

Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chronfa £1 miliwn ar gyfer digwyddiadau cymunedol

01 03 Dydd Gwyl Dewi/St David's Day

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr lawn o ddigwyddiadau a gefnogir gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026.

Mae'r gronfa gwerth £1 miliwn yn galluogi grwpiau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, ar 1 Mawrth. Bydd sefydliadau yn cael grantiau sy'n amrywio o £500 ar gyfer digwyddiadau cymunedol bach i £40,000 ar gyfer gweithgareddau ledled y wlad.

Bydd 92 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru, rhwng 16 Chwefror a 6 Mawrth 2026.

Ar ben hynny, bydd yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Gwna'r Pethau Bychain hefyd yn dychwelyd, ochr yn ochr â gweithgareddau sy'n cael eu rhedeg gan swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru a hyrwyddo bwyd a diod yng Nghaerdydd a Llundain.

Am ragor o wybodaeth cliciwch y ddolen hon: Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chronfa £1 miliwn ar gyfer digwyddiadau cymunedol | LLYW.CYMRU.

Dydd Gŵyl Dewi 2026 – sut bydd eich busnes yn dathlu?

Os ydych chi'n fusnes yng Nghymru, yna bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi eich bod wedi dewis dathlu nawddsant y genedl.

O ddigwyddiadau traddodiadol i ymgyrchoedd creadigol digidol, mae yna ddigon o ffyrdd i fusnesau gymryd rhan a denu sylw yn ystod y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi: Dydd Gŵyl Dewi 2026 – sut bydd eich busnes yn dathlu? | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.