Newyddion

Dydd Gŵyl Dewi 2026 – sut bydd eich busnes yn dathlu?

Woman wearing a tall Welsh hat and pink traditional Welsh jumper on a yellow background.

Dewi Sant yw nawddsant Cymru, a Dydd Gŵyl Dewi yw diwrnod cenedlaethol Cymru, sy’n cael ei ddathlu ar 1 Mawrth.

Os ydych chi'n fusnes yng Nghymru, yna bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi eich bod wedi dewis dathlu nawddsant y genedl.

O ddigwyddiadau traddodiadol i ymgyrchoedd creadigol digidol, mae yna ddigon o ffyrdd i fusnesau gymryd rhan a denu sylw yn ystod y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi fel yr ymgyrch Pethau Bychain, sy’n rhannu eiliadau sy'n dathlu diwylliant Cymru a gwahodd cwsmeriaid i wneud yr un peth gan ddefnyddio #PethauBychain a #RandomActsofWelshness.

Mae Croeso Cymru yn galw ar fusnesau sy'n cynnal digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi i'w rhestru ar Croeso Cymru.

Manteisiwch i'r eithaf ar y cyfle hwn i arddangos beth sy'n gwneud eich busnes yn falch o fod o Gymru!

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen ganlynol: Sut a ble i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi | Croeso Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr lawn o ddigwyddiadau a gefnogir gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi, i gael rhagor o fanylion, ewch i: Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda chronfa £1 miliwn ar gyfer digwyddiadau cymunedol | LLYW.CYMRU

Mae yna lawer o resymau da dros ddefnyddio’r Gymraeg yn eich busnes, a ph’un a ydych chi’n gwmni mawr neu fach, mae mwy o gefnogaeth nag erioed o’r blaen i’ch helpu.

Mae cannoedd o fusnesau yn gweld manteision defnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae'n creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid, defnyddwyr y gwasanaeth, a'r gymuned, gan roi mantais gystadleuol i chi. Gall defnyddio ychydig o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr, am gyngor a chymorth ewch i Cymraeg yn eich busnes | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.