Newyddion

Cymorth i Dyfu: Cwrs busnes wedi'i ariannu'n rhannol ar gyfer perchnogion busnesau bach

Female business owner - florist

Ym mis Ionawr 2026, mae Siarter Busnesau Bach yn cynnig ei gwrs rheoli Cymorth i Dyfu (‘Help to Grow’) sy’n cael ei ariannu 90% gan Lywodraeth y DU.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch helpu i dyfu eich busnes bach trwy:

  • ddatblygu eich sgiliau arwain
  • cynyddu eich dealltwriaeth o bwy sy'n prynu oddi wrthych chi a pham
  • gwella eich dealltwriaeth o fetrigau ariannol allweddol
  • ymgysylltu â'ch tîm yn well

Yn llawn fframweithiau busnes ymarferol ac astudiaethau achos, mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau grŵp gyda chyfoedion a 10 awr o fentora 1-i-1 i'ch helpu i gymhwyso popeth rydych chi'n ei ddysgu'n uniongyrchol i'ch busnes.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: The Help to Grow: Management Course - Get ahead of 2026 | Small Business Charter.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth ac arweiniad wedi'i deilwra i fusnesau ledled Cymru sy'n dymuno datblygu a thyfu: Oes Gennych chi Fusnes yn Barod? | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.