Newyddion

Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl ledled Cymru i fod yn ‘Barod am Lifogydd' ar ôl blwyddyn o dywydd eithafol

Road Traffic Sign - flood

Yn dilyn haf o sychder a thanau gwyllt, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl ledled Cymru i beidio â bod yn hunanfodlon ynghylch perygl llifogydd yr hydref a'r gaeaf hwn.

Profodd cymunedau ledled Cymru lifogydd a stormydd dinistriol y gaeaf diwethaf, cyn i amodau sych hirfaith, sychder a thanau gwyllt sylweddol effeithio ar sawl rhan o'r wlad yn ystod yr haf. Wrth i newid hinsawdd barhau i ddod â thywydd eithafol amlach a dwysach, mae CNC yn atgoffa pobl y gall perygl llifogydd ddychwelyd yn gyflym wrth i dywydd yr hydref a'r gaeaf gyrraedd.

Drwy ei ymgyrch flynyddol Barod am Lifogydd, a gynhelir rhwng 12 a 16 Hydref, mae CNC yn annog pobl i ddeall eu perygl llifogydd, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim a chymryd camau syml, ymarferol nawr i baratoi, cyn i dywydd garw gyrraedd.

Gyda 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, mae CNC yn dweud y gall gwybod beth i'w wneud cyn i lifogydd ddigwydd wneud gwahaniaeth sylweddol i leihau'r effeithiau ar bobl, cartrefi a busnesau.

Cyn i dymor stormydd yr hydref a'r gaeaf gyrraedd, dylai pawb:

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl ledled Cymru i fod yn ‘Barod am Lifogydd' ar ôl blwyddyn o dywydd eithafol.

Darllenwch ein post newyddion Paratoi eich busnes ar gyfer llifogydd | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.